|
|
Cynlluniau
Gwydr Anne Smith Dechreuais
fy ngyrfa greadigol fel cynllunydd graffeg. Ar ol graddio gyda BA anrhydedd mewn
graffeg bum yn gweithio mewn gwahanol swyddi hyd at reolwraig cynllunio cyn
penderfynnu archwilio’r posibiliadau o gynllunio gan ddefnyddio gwydr fel
cyfrwng. Ennilliais Ddiploma mewn gwydr lliw traddodiadol ac astudiais wydr
toddediadol (glass fusion). Mae fy
nghynlluniau gwydr yn disgyn i ddwy gategori – gwydr toddediadol i gynlluniau
mewnol a gwydr lliw gogyfer a phensaerniaeth. Mae fy
ngwaith i gyd wedi ei gynllunio’n unigol a’i grefftu a llaw gan ddefnyddio
math o brosses odyn i’r gwydr toddediadol a’r modd draddodiadol o dechneg
plwm i’r gwydr liw. Mae bob cynllun yn unigryw, mae natur y gwydr a’r
brosses odyn yn caniatau hynny. Mae fy ngwydr toddediadol yn golygu torri,haenu, asio a chylchlithro gwydr i gynhyrchu maes eang o ddefnyddiau ar gyfer offer mewnol.Elfen bwysig o fy ngwaith ydyw fod pob item yn ddefnyddiol yn ogystal a bod yn addurniadol, felly mae yn berffaith ar gyfer y cartref a’r lle gwaith. Mae fy ngwaith gwydr toddediadol yn cynnwys, bwrddwaith, platiau, anrhegion, ategiadau, gwydr gelf a cherfluniau. Mae fy mhaneli gwydr liw yn cael eu gwneud gan ddefnyddio technegau traddodiadol plwm ac fel ag y mae’r gwydr toddediadol mae hwn hefyd yn ddefnyddiol ac addurniadol. Mae tryloywder ac asiad y gwydr yn uno i greu cynlluniau unigryw sydd yn cyfoethogi’r amgylchedd boed o yn y cartref neu’r gwaith. Mae’r gwydr liw yn cynnwys paneli, sgriniau a gwydr liw pensaerniol. Bydd comisiynau yn cael cynllunio mewn cydweithrediad agos a’r cwsmer er mwyn sicrhau bod y cwsmer yn cael creadigaeth unigryw fydd yn ateb eu gofynnion. Am fwy o
wybodaeth cysylltwch a mi ar 01758 780 288, neu ymwelwch a fy safle we |
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |